Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hynny ddywedodd y gwas iddi hithau. Yntau a gerddodd yn ol yr hydd, ac ar afon Gynfael goddiweddodd a lladdodd yr hydd. Ac yn blingo yr hydd a llithio ei gŵn y bu oni wasgodd y nos arno. A phan ydoedd y dydd yn adfeilio a'r nos yn neshau, efe a ddaeth at borth y llys.

"Yn wir," ebe Blodeuwedd, "ni a gawn ein goganu gan yr unben, os gadawn iddo fyned i le arall ar awr fel hon, onis gwahoddwn ef."

"Yn wir arglwyddes," ebe hwy, "iawnaf yw ei wahodd"

Yna yr aeth cenhadau i'w gyfarfod i'w wahodd. Ac yna cymerodd ef y gwahoddiad yn llawen, ac a aeth i'r llys, ac aeth hithau i'w gyfarfod i'w groesawu, ac i gyfarch gwell iddo.

"Arglwyddes," ebe ef, "Duw a dalo i hela. iti dy garedigrwydd."

Wedi iddo ddiosg ei arfwisg, myned i eistedd a wnaethant. Sef a wnaeth Blodeuwedd edrych arno, ac o'r awr yr edrychodd nid oedd gyfair arni hi na bai llawn o gariad ato ef. Ac yntau a fyfyriodd arni hithau, a'r un meddwl a ddaeth iddo ef ac a ddaeth iddi hithau. Ni allai ymgelu ei fod yn ei charu, a'i fynegi iddi a wnaeth. Hithau a gymerth ddirfawr lawenydd, ac o achos y serch a'r cariad a roddasai pob un ohonynt ar ei gilydd y bu eu hymddiddan y nos honno. A thrannoeth son a wnaeth am fyned ymaith.

"Yn wir," ebe hi, "nid ei oddi wrthyf fi heno."

A'r noson honno y bu ymgyngor ganddynt pa ffurf y gallent fod gyda'i gilydd.

"Nid oes gyngor," ebe ef, "ond un,—ceisio cael gwybod ganddo ymha ffurf y dêl ei angau, a hynny yn rhith ymgeledd am dano."

Trannoeth, son am fyned ymaith wnaeth.