Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yn wir, ni chynghoraf it heddyw fyned oddi wrthyf fi."

"Yn wir, gan na chynghori dithau, nid af finnau," ebe ef. "Mi a ddywedaf hefyd fod yn berigl i'r unben biau y llys ddyfod adref." "Ie," ebe hi, "yfory mi a'th ganiataf di i fyned ymaith"

Trannoeth, son am fyned ymaith a wnaeth, ac ni luddiodd hithau ef.

"Ie," ebe yntau, "coffa a ddywedais wrthyt, ac ymddiddan yn ddwys âg ef, a hynny yn rhith ysmaldod cariad ag ef, a dysg oddiwrtho pa ffordd y gallai ddyfod ei angau."

Yntau a ddaeth adref y nos honno. Treulio y dydd a wnaethant trwy ymddiddan a cherdd a chyfeddach. Ac efe a ddywedodd barabl wrthi, ac er hynny parabl nis cafodd ef ganddi.

"Pa beth a ddarfu iti?" ebe ef. "A wyt iach di?"

"Meddwl yr wyf," ebe hi, " yr hyn ni feddyliet di am danaf fi; sef yw hynny," ebe hi, "gofalu am dy angau di, os eli yn gynt na myfi."

"Ie," ebe ef, "Duw a dalo it dy ymgeledd. Oni ladd Duw fi, nid hawdd fy lladd i." . "A wnei dithau, er Duw ac erof finnau, fynegi i mi pa ffurf y galler dy ladd di? Canys gwell yw fy nghof i na'th un di i'w ochelyd."

"Dywedaf yn llawen," ebe ef. "Nid hawdd fy lladd i ond âg ergyd. A rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y bar y'm tarewid ag ef, ac heb wneuthur dim ohono namyn pan fyddid ar yr aberth ddydd Sul."

"Ai diogel hynny?" ebe hi.

"Diogel yn wir," ebe ef. "Ni ellir fy lladd i mewn tŷ," ebe ef, "ni ellir allan, ni ellir fy lladd i ar farch, ni ellir ar fy nhroed."