Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie," ebe ef, "par ddal un ohonynt, a phar ei ddwyn yma."

Fel y tarawyd Llew Llaw GyffessA'r bwch a ddygwyd. Yna y cyfododd ef o'r enaint, a gwisgodd ei lodrau am dano; a dodi ei naill droed ar ymyl y gerwyn, a'r llall ar gefn y bwch. Yntau Gronw a gyfododd i fyny o'r bryn a elwir Bryn Cyfergyr. Ac ar ben y naill lin y cyfododd, ac â'r waew wenwynig y bwriodd ac y tarawodd Llew Llaw Gyffes yn ei ystlys oni neidiodd y paladyr ohoni, a glynu o'r pen ynddo. A dodi gwaedd anhygar a wnaeth Llew, gan ddechreu ehedeg yn rhith eryr, ac ni welwyd ef o hynny allan. Cyn gyflymed yr aeth ef ymaith y cyrchasant hwythau y llys. A'r noson honno priodi a wnaethant. A thrannoeth cyfodi a wnaeth Gronw, a goresgyn Ardudwy. Wedi goresgyn y wlad, ei gwladychu a wnaeth hyd onid oedd yn eiddo iddo Ardudwy a Phenilyn.

Yna y chwedl a aeth at Math fab Mathonwy. Trymfryd a phryder a gymerodd Math, a Gwydion lawer mwy nag yntau.

Arglwydd," ebe Gwydion, ni orfiwysaf fyth oni chaffwyf hanes am fy nai."

"Ie," ebe Math, "Duw a fo nerth it."

Ac yna cychwyn a wnaeth ef, a dechreu rhodio rhagddo. A rhodio Gwynedd a wnaeth, a Phowys i'w therfyn. Wedi darfod iddo rodio felly, Fel y chwiliodd Gwydion fab Don am ei naiefe a ddaeth hyd yn Arfon, ac a ddaeth i dŷ mab aillt ym maenor Pennardd. Disgyn wrth y tŷ a wnaeth, a thrigo yno y nos honno. Gŵr y tŷ a'i dylwyth a ddaeth i mewn, ac yn ddiweddaf y daeth gwas y moch. A gŵr y tŷ a ddywedodd wrth was y moch,—