Sef a wnaeth yntau, yr eryr, ymollwng onid oedd ynghanol y pren. Sef a wnaeth yntau, Gwydion, canu englyn arall,[1]—
"Dar a dyf yn ardd-vaes.
Nys gwlych glaw, nys mwytawdd.
Naw ugain angerdd a borthes.
Yn y blaen Llew Llaw Gyffes."
Yna yr ymollyngodd yntau onid oedd ar gainc isaf y pren. Canu englyn a wnaeth yntau iddo,[2]—
"Dar a dyf dan anwaeret.
Mirein medur ym ywet.
Ony dywedaf i ef.
Dyddaw Llew ym harffet."
A disgynnodd yntau ar lin Gwydion, ac yna y tarawodd Gwydion yntau â hud—lath onid oedd yn ei rith ei hun.
Ni welsai neb olwg druanach yn wir nag oedd arno ef,— nid oedd ddim ond croen ac asgwrn. Yna cyrchu Caer Dathyl a wnaeth ef, ac yno y dygwyd a geffid o feddygon yng Ngwynedd ato, a chyn cyfyl y flwyddyn yr oedd yn holliach.
Arglwydd," ebe Llew Llaw Gyffes wrth Fath fab Mathonwy, "mad oedd i mi gael iawn gan y gŵr y cefais ofid ganddo."
"Yn ddiau," ebe math, "ni all ef ymgynnal a'th iawn di ganddo."