Prawfddarllenwyd y dudalen hon
MEDDYLIWR
(Dafydd Williams, † 1927)
Llygaid a allai agor ar giliau
dirgelwch yr ysbryd,
Bellach, i ni fe ballodd y tân
fyddai ynddynt hwy;
Tafod a wyddai draddodi, aur enau
holl rinwedd lleferydd,
Diau, i ni fe dawodd y llais
a roi enaid i'n llwch,
Deall heb gwmwl a'i duai, a bwriad
heb ŵyro na phlygu―
Honiad yw ffydd o diffoddwyd y ddawn
a'r daioni oedd ef.