Prawfddarllenwyd y dudalen hon
LLADRON
B'le daw ar neb ladron waeth
Na lladron y llywodraeth?
UN O'R DDAU
Gad heibio dy gydwybod,
Yna ti gei lond dy gôd.
TRADDODIAD
Beth fyddai cof a phrofiad
Heb ddysg lyfr, heb addysg wlad?
WAETH PRUN
Os marwaidd hen gwsmeriaid,
Agor siop gyda'r groes haid.
Y LLEILL
Haws ydyw gyrru sawdwyr
I dywallt gwaed na dallt gwŷr.