Prawfddarllenwyd y dudalen hon
HEDDIW
Oni bai doe—deddf bod yw—
Ni byddai i neb heddiw;
Beth ond ofer hyder hy,
O bai fawr, heb yfory?
GWLADGARWCH
Annwyl yw gwlad ein tadau,
Cadwed Dur y bur hoff bau!
Mynnwn ni er mwyn y naill
Diroedd gwlad tadau eraill.
TRO BYR
Wedi'r drin y daw rhyw dro,
Ac ystyr faint a gostio,
Heb un gwerth, a phawb yn gall
Nes torri o'r ornest arall.
MERWINDOD
Y bregeth a bregethi,
Ni waeth ba iaith y bo hi,
Ond darnia un—truan waith
Di-raenu dwy ar unwaith.