Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BAWENYDDIAETH

Daeth celfyddyd byd i ben!—
Na, dyma rin y domen;
O faeth hon cei dwf i'th ŷd
A thwf llenyddiaeth hefyd.


Y GOR-DDYN

Oblegid i'w aur blygu
A dwyn i lawr dano lu,
Dywedid uched ydoedd—
Diau un o'r duwiau oedd!
Ei wanu o bryf digon brau—
Dan ei ddaint dyn oedd yntau.