Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GARAN A'R LLWYNOG
(Dienw, o'r Wyddeleg)

Coel â llwynog y Foel Fan
à gair a wnaeth y garan,
A Madyn yn amodi
Ar ei air na thorrai hi.

Ehud oedd, hyd anial daith,
Gadw amod â'i gydymaith;
Bu faith ar fadyn heb fwyd,
A'i fron a lwyr ferwinwyd.

A'r crŷr ei hun yn hunaw,
Amdano e droes madyn draw,-
Ni wedd mwy a'i ddannedd main
Y chwalodd ben a chelain.

Gweli mai hi a'm gwaelodd,
Yn iach, fun, fu mun fy modd;
Mi, edn wyf, madyn yw hi,
Ag ail oedd y goel iddi.

1916.