Prawfddarllenwyd y dudalen hon
AI DOLURUS YW?
(Johanna Ambrosius)
Fe roddaist unwaith imi rosyn,
Fe'i cedwais; gwelais heddiw'n wyw;
A phan y'm gwaedwyd gan y pigyn,
Gofynnaist "Ai dolurus yw?
A lliain esmwyth, gwyn fel eira,
A ddodaist tithau ar y briw;
A chwerddais gan blentynnaidd ofid
A dywedyd "Nid dolurus yw."
Mwy erot wedi rhwygo 'nghalon,
A minnau megis ewig friw,
Oni ofynni di mewn breuddwyd
Am unwaith "Ai dolurus yw?"
1910.