Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CYFADDEF
(Johanna Ambrosius)
Mi yfais o'r haul ei hunan
Y gwres a lysg fel y tân,
Mi nofiais yn nwfn gysgodion
Y lleuad ariannaid lân.
Draw ar adanedd y gwyntoedd
Ehedaf hyd bellter byd,
Eiddof yw seren ac enfys
I chwarae â hwy o hyd.
Peraidd yw cân ysbrydion
Y coed a'r afonydd i gyd,
A nofio y mae'r cymylau
Mewn rhosliw oleuni hud.
"Pa achos," medd haul a lleuad,
"Fod popeth cyn deced i ti?"
A gwaeddaf o ganol y gwynfyd
Mai caru, mai caru 'rwyf i.
1910.