Yr oedd y perthi yn eu gwyn i gyd
Fel offeiriadon ar ddefosiwn mud,
A'r deri preiffion fel pileri nadd
Hen eglwys, lle ni ddôi na gwae na gwŷd.
Rhos gwylltion hyd y llwyni megis cain
Fân glychau mud ynghrôg wrth raffau main,
Ac ambell gorsen gynnar yno'n dwyn
Ei grawn, fel gleiniau gwefr, ymhlith y drain.
Ym mrig yr hwyr disgynnai'r gwlith i lawr,
A'r awyr laith yn drom gan beraidd sawr
Y blodau, nes bod canwelw niwl y glyn
Megis mygydarth allor Natur fawr.
Gorweddais lawer tro dan gysgod pren,
A chlywais ganu rhyfedd uwch fy mhen,
Fel hwnnw gynt yn awr ei dranc a ddaeth
I glyw telynor mwyn y Garreg Wen.
Ni byddai drymder yn difwyno'r dydd,
Na blinder chwerw yn troi y nos yn brudd;
Nid aethai ffynnon gobaith eto'n hesb,
Ni ddaethai creulon ffawd i lethu ffydd.
Tudalen:Manion.djvu/25
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon