Prawfddarllenwyd y dudalen hon
RHYDDID A RHAID
(I D.R.)
Câi dyn ei hen lawenydd,
Byw dan yr haul, bod yn rhydd,
A di-ball wynfyd bellach—
O châi ryw ffawd a chorff iach!
Câi freuddwydio, rhodio'n rhydd
Trwy lwyni, hyd rhyw lennydd,
Y llwybrau hen lle bo rhwyd
O fieri a fwriwyd
Am waun a llethr, a Mai'n llon
Drwsio'u gwallt â rhos gwylltion;
Crwydro lle carai; edrych
Dilin aur banhadlen wych,
Aur a saif uwch pris hefyd,
Tlysach nag aur banciau'r byd!
Draw yn nheg dir unigedd
Câi bur hoedl, câi braw o hedd
Llwyn, mynydd, llyn a mawnog,
Bro wen cornchwiglen a chôg.