Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TUNIS

Bwlch rhwng y tai ar gornel heol hir
Yn fframio llonydd lain o awyr las—
Rhyw las diniwed, megis llygaid plant—
A chromen mosc, fel noe a'i phen i lawr,
A'r meindwr megis saeth, a golau dydd
Yn torri'n gawod wreichion am ei blaen;
A thair o balmwydd ir a'u dail ar ŵyr,
Yn huno yno yn yr heulwen aur,
Fel pe bai amser wedi colli brys
A bywyd yn bodloni ar hamdden Bod . . .
A minnau yn ymadael, megis un
A wypo nad yw symud onid siom,
Gan ado yno ran ohono'i hun
I fod heb fudo yn yr heulwen glaer.
(A groeso fôr, ni newid onid aer.)

1905.