Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAIRO
I.

Adfeilion mosc ar ymyl yr ystryd
Fel pe baent wedi crino yn yr haul
Nes bod y meini'n llawn o dyllau mân,
Fel ambell grwybrog faen ar lan y môr,
Neu lun ymylau pannwl mynydd llosg
A dynno'r camra o lygad telescop
Pan ddalio hwnnw lun y lleuad farw.

Merched mygydog hen wrth droed y mur,
Neu ar y meini a fu risiau gynt—
A'r cochni drwy yr alabaster pŵl
Fel gwythi gwaed tan groen gwywedig gnawd—
Yn eistedd yn yr haul, o ddydd i ddydd,
Mor llonydd ac mor fud â'r Sphinx ei hun.

Pan yrro golud y Gorllewin gwyllt
Yn ei gerbydau drud a'i esgus gwisgoedd,
I geisio rhywbeth i ddifyrru'r amser—
Cynysgaeth na bydd ddiddig ond a'i gwario—