Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eto mynnaf, er a fynno
Oes ddi-awen
Dan ei rheg,
Ddychwel adref a chael yno
Ieuanc lawen
Dylwyth Teg!

Cairo, 1906.


DAFYDD AB EDMWND

Garuaidd dad melysaf breugerdd dyn
A didlawd feistr ei delediwaf iaith,
Pan roddit dro, a'r fro gan Fai yn fraith, ...
Hyd las y lawnt lle bai dy lusael un,
I'w bagad ros tebygud rudd y fun,
A'i hwyneb i ôd unnos mynydd maith;
Neu frig yr hwyr, a'r gaca'n llwm a llaith,
Ba lys di-ail oedd ef, dy blas dy hun!
Datganai dy ddisgyblion wrth y tân
Y feddal gerdd a fyddai ail y gwin,
A gwŷr a wyddai gamp y tannau mân
Yn bwrw o'u bysedd bob rhyw ryfedd rin;
Tithau, aur enau'r iaith, pan ganit gân,
Fel osai pêr diferai dros dy fin.