Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A niwl yr hydref oer yn hulio'r tir,
A'r glaw'n fân leiniau cain ar lwyni coed,
A chalon drist ac anghynefin droed
Ar hyd ryw nawn bûm innau'n crwydro'nhir
Gan holi plant y wlad amdanad; dir
Na wybu'r rhain dy fyw'n y bau erioed,
A chan yr athro uniaith gair ni roed
Na gwers o'th hanes, fab yr awen wir;
A mud yw yntau, oed, amdanat ti,
Ni wyddai air am dy neuaddau hen,
Nac iti fyw erioed, er maint dy fri
Y dyddiau gynt; collodd ei lafar lên;
Nid eiddo ddoe ei dras na'n heddiw ni,
Ond bratiog estron iaith a thaeog wên.
1908.