Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yn ei llygaid holl eigion
Melyster neu brudd-der bron,
Awydd ac ofn, bodd ac aeth,
Galwad taeraf glud hiraeth!
Gwrid îr oedd yn gwawrio dros
Loyw donnen liw ôd unnos
Y fun a'i glân fwnwgl hi
Gan dân yn gwineu donni,
A'i deufin rudd liw dwfn ros
Yn agoryd ac aros
Heb lais mal pe bai lesmair
Yn lluddio gwên, yn lladd gair.
Ond di-raen nyth truan wyt,
Gadawedig dŷ ydwyt;
Noddaist gerddorion addwyn-
Heno, mae eu canu mwyn?
Heddiw ofer am Ddafydd
Ofyn gair o fewn y gwŷdd,
A'r unwedd, ni cheir heno
Weled un o'r annwyl do
A fu ynot fyw unwaith
Am awr rhwng dau angof maith.
Rhagfyr, 1910.