Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Un bore, agorodd y wawr ei dôr,
Ac eilwaith canodd y nefol gôr
"Ewyllys da a thangnefedd Iôr."
1916.
Y FRAINT FAWR
Neithiwr, a mi yn eistedd wrth y tân,
Daeth un fel gŵr bonheddig at y drws
A gofyn oni chaffai air â mi.
Gwahoddais innau ef i mewn, a daeth.
'Roedd am ei fysedd ef fodrwyau aur
A chadwyn felen drom ar draws ei fron.
Meddai: "Y mae dy dŷ yn eithaf llwm,
A thithau'n ŵr a allai fod, yn rhwydd,
Yn derbyn amgen cyflog am dy ddawn."
Tawodd, ac araf fygu ei sigâr.
Tewais a mygais innau bibell glai.
Meddai yn union: "Onid ofer waith
Yw hanner credu chwedlau meirwon, hen,
A threulio dawn ar waith na ddwg un tâl,
A byd i'w drechu'n gorwedd wrth dy draed?"