Prawfddarllenwyd y dudalen hon
EIN TADAU
Pa le mae'n tadau, pwy a'i gŵyr?
Maent wedi llwyr dawelu—
Awn ninnau atynt ar fyrr dro
I ro ein daear wely.
Os ynt yn cofio am eu plant
A mwyniant neu drueni,
Ni chlywir gair gan dad na mam—
On'd rhyfedd, am rieni?
Pan ddêl y gwanwyn yn ei dro,
A deilio llwyn a dolau,
Ni ddeuant hwy i roddi taith
Am unwaith yn eu holau.
Pan fyddo pridd y ddaear ddu
Yn tyfu'n ddail a ffrwythau,
Paham na ddôi ein tadau'n rhydd
O bridd y ddaear, hwythau?
Pan fyddo rhyfel yn y byd,
A phawb i gyd yn griddfan,
Rhyfedd na ddôi ryw gyngor bach
Gan ddoethach yn ei guddfan!
1918.