Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Pan fyddai wedi gweithio
Rhyw awr â chaib neu raw,
Unionai'i gefn yn araf,
A hir edrychai draw,
A sychai chwys ei wyneb
A chefn ei gorniog law.
"Cymerwn fygyn," meddai,
Gan estyn cetyn pren
A wnaeth o fonyn celyn,
Yn undarn, goes a phen,
A blwch o'i waith ei hunan,
O gorn yr hen fuwch wen.
Eisteddai ar ei sodlau,
A mygu'n ddistaw, dro,
Ac yna, dechrau siarad
Yn gwta byddai fo,
Ffilosoffi ei feddwl,
A redai drwy ei go.