Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Os cleddir finnau'n gyfa,
Bydd hynny'n syn o dro,
Ond hoffwn iti ddwedyd
Pan fyddwyf yn y gro,
Fod yno un yn gorwedd
Nad oedd yn ffŵl o'i go.

"Mae dyrnaid bach o gnafon
Yn medru swagro'n syth
Ar gost y ffyliaid llymrig
Sy'n llyncu pob rhyw druth;
Ond ambell hen ederyn—
Ni thwyllir mono byth!

"Mi fynnwn fwrw'r cnafon
Bob un â'i ben i lawr,
Ond gan na fynn y ffyliaid,
'Does dim i'w wneud yn awr
Ond chwerthin hyd nes dyfod
Yr hwyr, a'r noswyl fawr."

1918.