Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ANFARWOLDEB
(I J.J.W.)
O waelod oer dawelwch
Yr hun hir a nos y dirgelwch,
A ddaw'n ôl i ddyn elwch
Neu ail oes i'w druan lwch?
Pan ddylo haul, pan ddêl hwyr
Y dynged, gyda'i angof trylwyr,
O'i ddwys hun a ddaw synnwyr?
Duw nis gwad, a dyn nis gŵyr.
1920.
NOS GALAN
Er bod storom yn Eryri,
Fel ein tadau, canwn ddyri;
A'r ni charo wlad ei eni,
Nid truaned un trueni.
Blwyddyn arall sy'n terfynu,
Clywn y deri hen yn crynu;
Ond er gwaetha'r storm a'i nadau,
Canwn glod ein dewrion dadau.