Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Dyma eto flwyddyn newydd,
Hwyl i awen yr eilewydd;
Canwn ninnau groeso cryno
Cenedlaethau a'n canlyno.
1922.
SWN Y GWYNT
Ie, heno gwrdd yw sŵn y gwynt
Ag ef ar hynt tros frig y fron;
O'i blegid effe blyg y dar,
A mâl ei rwysg gymalau'r ynn.
Er hyn i gyd, nid rhu na gwg
Neu lefau drwg a glywaf draw,
Ond lleisiau pob llawenydd fu
A diddig gân y dyddiau gynt.
1923.
I RIENI
Anynad hen ddynionach
A'u gwaed oer gwedi aros bellach,
O chânt hwy ddial mwyach,
Pylant y byd i'r plant bach.
1923.