Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw a Mair wen, dymor hir,
Roi ŵr cu a gwraig gywir
Hoedl wiw ddiofid lawen
Na bython' hwy byth yn hen!

Cork, 1923.


GWENOLIAID

Cawod o flotiau duon
Yn awyr ruddgoch Mai;
Gwyddant lle gynt y buon',
Disgynnant ar bennau'r tai.

Siglant eu plu a'u cynffonnau,
Grydwst yn hir a wnânt
Bob yn ail a phigo'u bronnau;
Yn dres heibio'r coed yr ânt.

Clywsant yr alwad neithiwr
A hwythau yn heulwen y de,
Di-arwydd oedd ffordd pob teithiwr,
Ond edwyn pob un ei le.

1923.