Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ATRO ARTHUR
I.

A'r gŵr mawr weithion mewn estron iaith
Wedi hir ferwi'r holl dorf â'i araith,
Canai hithau am Hen Wlad ei Thadau,
A maith y mynnai i'r heniaith barhau.

A gwladwr tal gerllaw a wrandawai,
Union oedd, a glaswenu a wnâi.

Yna, âi draw. Meddwn innau: "Druan,
Onid cu gennyt wrando eu cân?"

Synn oedd ei olwg. Glaswenodd eilwaith;
Meddai (a'r wên megis modd ar ei iaith):

"Diau gennyf mai da a ganant
A chywrain yw y chwarae a wnânt."

Meddwn: "Oni cheri wlad dy dadau?"
Crynodd ei ael. Meddai: "Cara'n ddi-au."