Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gloywi'n yr haul y gwelwn ryw hwyliau,
Bu daw; yna sŵn fel bad yn nesâu.

Ac i mewn i'r bad yr aeth y gwladwr,
Hwyliodd i'w daith, a thawelodd y dŵr.

A chlywn gynghanedd brydferth a chwerthin
A nwyfus gainc gan wefusau gwin.

"Druan gwŷr! nid oes gradd o naddunt
A ddeil ar beth ond addoli'r bunt!"

1923.


CYFFES
(I chwe bardd o lowyr a gyhoeddodd lyfr prydyddiaeth)

Ni wn gelfyddyd torri'r glo na'i dynnu,
A fferrai'r byd o annwyd, o'm rhan i;
Dysgasoch chwi gelfyddyd iaith, er hynny,
Ni byddai'r byd heb lyfrau, o'th rhan chwi;
Nid oes i mi ond darn celfyddyd hen
Wrth ŵr a godo lo, a gadwo lên.

1924.