Prawfddarllenwyd y dudalen hon
"Bydd hoff," medd Dafydd Broffwyd,
"Ddatganu cerdd Leucu Lwyd!
Mwy i'r côr, fab Meurig Hen,
Dring di hyd rengau d'awen
I weled a'th anwyla,
Leucu deg, liw cawod iâ."
Gwelwi, crynu, syllu'n synn
Ei olwg o Lywelyn;
Meddai ef: "Bid maddau im'-
Nid oedd ond breuddwyd diddim!"
Medd Dafydd: "Modd yw difod;
Breuddwydion beirdd yw dawn bod;
Y ddelw gynt a addolwyd,
Cariad a rydd-creawdr wyd."
A wylo o Lywelyn,
A'i ddeigr oedd y geiriau hyn-
"Ai yma'r oedd fy mreuddwyd:
A aeth yn wir rith y nwyd-
Ni'th ddeil mur na chlo dur du,
Na chlicied-henffych Leucu!"
*****