Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GOFAN ARIAN
(Yn ymyl Sgwd Cilbepste. I I.L.E)

Lle rhodiodd peintiwr Hydref gynt
Ar hynt trwy goed yr haf,
MY Gofan Arian neithiwyr aeth
Dros lwybrau caeth y coed.

Troes fanddail aur y rhedyn gwyw
Yn arian byw bob un;
Tros lwyni coed rhoes leiniau cain,
I'r drain rhoes berlau drud.

Un noswaith fu'n ei firi brwysg
Yn gwatwar rhwysg yr haf,
Ni chlywed sŵn ei yrdd pan aeth
Dros lwybrau caeth y coed.

Ond gwelwyd yno ar ei ôl
Bob camp ryfeddol fath,
Nas gwelodd onid crwydryn tlawd
O frawd i rith y Gof.

1926.