Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y WELEDIGAETH
Daeth y bugail i mewn i'w fwthyn
Ar ganol unig y rhos,
Prin yr oedd ynddo chwythyn
Gan fraw'r weledigaeth nos.
Fe glywodd sŵn clecian fel melin
Yn rhedeg yn wag, yna bref,
A gwelodd ddau lygad ufelin
Yn rhuthro rhwng daear a nef.
A chyn iddo osio dyfalu,
Fe glywai'r brefiadau a'r twrdd,
A gwelai'r goleuni'n sgrialu
Dros gefnen lawn filltir i ffwrdd.
A hir a fu'r braw a'r dyfalu,
Ond weithian, ar hyd yr un rhos,
Mae gorwyr y gŵr yn sgrialu
Mewn Ffordyn yn gyson, bob nos.
1926.