Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAERNARFON

Gynnau yr oedd gogoniant a henaint
yn huno o'th gwmpas,
Bellach, rhywbeth a ballodd—
heno nid ydwyt ond hen;
Eto yfory pan giliwyf o'th gyfyl
a'th gofio mewn myfyr,
Huno y byddi'n dy henaint teg
a'th ogoniant o hyd.

1927.


MENAI
(Wedi hir dreigl)

Bore o wanwyn gwlybyrog,
a niwl ym mhanylau'r mynyddoedd,
Menai'n anniddig ei mynwes,
a Môn yn ddigysur mwy;
Pam y dihangodd rhamant a nwyf
o'u cynefin ymaith:
Gallu cyfrinach a gollwyd,
nwyf a adawed yn oer.

1927.