Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHWNG Y DDEUDDIM

Bu farw'r duwiau oll i gyd,
Rhag pwyll y byd gwybodus,
A dyma daith rhwng dim a dim
Yn mynd yn chwim a chymysg.

Er hyn, nes darfod dyfod im
Y dim sy'n ddiwedd damwain,
Caf gofio'r mwynder gynt a gaed
Lle bu fy nhraed yn rhodio.

A gwyped Rhaid, pan ddêl fy nhro
I gwympo i ddiddymdra,
Fod unwaith ddim, er pob rhyw boen,
A wybu hoen ei hunan.

1927.