Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DEWIN

Aeth dewin distaw drwy y coed
Gan dorri cwsg yr adar,
A bore drannoeth, cynnar iawn
Oedd cân y rheiny yno.

Ei wyrdd a'i wyn a fwriodd o
Ar fyrdd o wiail ieuainc,
A gwelir ias o'i las a'i goch
Ar lysiau gant yn gwawrio.

Fe lynodd ei loynnod aur
Ym mlaenau dur yr eithin,
A mil o'i felyn wenyn o
Ar union weill y banadl.

Ei lanw ef aeth dros y gwŷdd
Nes drysu gwallt y fedwen,
A'i don wrth dorri'n ewyn briw
Yn gwynnu brig y perthi.

Aeth dros holl lwybrau'r gaeaf dreng,
A dringodd dros y mynydd,
A gado, lle bu arian oer,
Ei aur a wnaeth y Dewin.

1927.