Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GYNT
Eistedd o flaen y tân
Dan fantell hir
Yng nghegin un hen dŷ
Yng Nghymru gynt,
Pan fyddai sŵn y gwynt,
Noswaith o aeaf du
Yn gwneuthur coed y tir
Yn dannau mawr a mân
I roddi llais i'r gân
Nas canodd onid yno ar ei hynt
O'r gogledd pell, neu ynteu o'r dwyrain oer,
Pryd nad oedd iddo loer
Na sêr i dwnnu ar y ffordd o'i flaen,
A'i donnau yntau'n chwalu'n wyllt ar daen
Nes torri'n friw ar greigiau Cymru, a throi
A llifo i'w chilfechydd, drwy ei choed,
Fel ysbryd dychrynedig draw yn ffoi
Rhag ofn,
A llawer dolef fain
A hir uchenaid ddofn
Wrth droi fel nadredd drwy y coed a'r drain