Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nodyn oddiwrth y diweddar Barch. Dr. Charles gyda'r ysgrif wreiddiol o'r llyfryn hwn, a roddasid iddo i'w darllen.

Fy anwyl Gyfaill,

Rhagorol! Yr oedd yn fy llwyr orchfygu wrth ei ddarllen. Tywelltais ddagrau lawer uwch ei ben. Dylai gael ei argraffu yn ddioed, a chael lledaeniad cyffredinol. Diolch yn fawr i chwi am y wledd feddyliol a fwynheais. Gyda'r cofion cywiraf atoch,
Yr eiddoch yn wir,
D. CHARLES.

Aberdyfi, Hydref 24, 1878.