Gwirwyd y dudalen hon
MARY JONES,
Y GYMRAES FECHAN HEB YR UN BEIBL
——————
PENOD I—Bywyd boreuol Mary Jones.
Dwy ffaith goronol yn hanes gwlad fechan Cymru ydyw, sefydliad yr Ysgol Sabbothol tuag at addysgu ei phobl i ddarllen, a deall, a byw Llyfr Duw, ac i hyny fod yn achlysur i sefydliad y Gymdeithas sydd â'i hamcan i ledaenu y Llyfr trwy holl wledydd y byd; a chysylltiad yr anfarwol Charles o'r Bala" â'r ddwy ffaith bwysig hyn sydd wedi ei ddyrchafu i safle goruchel, hollol wrtho ei hun, ymysg gwladgarwyr Cymru.
Effaith naturiol sefydliad Ysgolion Sabbothol trwy bob parth o Gymru, yn niwedd y