Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganrif ddiweddaf, oedd creu angen a galwad mwy cyffredinol nag erioed am wers-lyfr dwyfol yr ysgolion oll—Y BEIBL. Darparodd y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol argraffiad o 10,000 o gopïau o'r Beibl cyflawn i Gymru yn 1799. Gan y cynwysai yr Apocrypha, Llyfr Gweddi Gyffredin, y Psalmau, Gan Edmund Prys, ac amrywiol dablau Eglwysig, yr oedd yn gyfrol drwchus, a'i bris yn uchel. Ond mor fawr oedd y galwad a greasai yr Ysgolion Sabbothol trwy yr oll Dywysogaeth am Feiblau a Thestamentau, fel y dihysbyddwyd yr argraffiad hwnw i fyny ymhen ychydig fisoedd wedi ei ddygiad allan o'r wasg. Erbyn gwanwyn y flwyddyn 1800, yr oedd Beibl Cymraeg ar werth yn un man yn Nghymru mor anhawdd ei gael ag erioed. Yn lle diwallu yr angen, a distewi y cri, cynyrchodd y 10,000 Beiblau hyn alwad mwy gwaeddfawr nag erioed o'r blaen am filoedd lawer ychwaneg. Ond wedi dihysbyddiad cyflym yr argraffiad hwn, trodd y Gymdeithas Eglwysig yn Llundain glust fyddar i bob taerineb am