Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ei henw—ymha le yr oedd yn byw, neu y cyfarfuasai Mr. Charles â hi, nis gallai neb o honynt ddweyd. Ond cyfeirient ati fel dolen fechan, ond pwysig, yn y gadwen o achosion ac effeithiau a derfynasant yn sefydliad y Feibl-Gymdeithas, ac fel engraifft dra tharawiadol o linell y bardd Seisnig, "What great results from small beginnings spring" Ond gadawent holl fanylion ei hanes yn orchuddiedig dan dywyllwch.

Yn y tudalenau canlynol, ceir hanes yr eneth arbenig hono, a manylion ei hymweliad â Mr. Charles i geisio am Feibl. Yr eneth ddyddorol hono oedd Mary Jones, merch Jacob a Mary Jones, o Dy'nyddol, Llanfihangel-y-Pennant, pentref bychan yn y dyffryn cul, prydferth, wrth droed deheuol Cader Idris. Ganwyd hi yno yn 1784. Gwehydd tlawd oedd ei thad, a gwehyddes fu hithau trwy ei hoes. Yr oedd ei rhieni yn aelodau o'r Eglwys Fethodistaidd fechan a ffurfiesid tua'r adeg hono yn yr ardal. Yn y dyddiau hyny ni oddefid i blant ddyfod i'r cyfarfodydd eglwysig. Ond arferai ei mam