Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymeryd Mary, er pan yr oedd tuag 8 mlwydd oed, gyda hi i gludo y lantern, pan yn myned i bob cyfarfodydd hwyrol. Yn rhinwedd y gwasanaeth plentynaidd hwnw i'w mam, goddefid i Mary fod yn eithriad i blant ereill, a chael myned i mewn gyda'i mam i'r "society," ac ni fu byth ddiwrnod allan o'r eglwys filwriaethus yma, hyd nes y galwyd hi i fyny i'r eglwys orfoleddus fry, 74 mlynedd wedi hyny.

Pan yr oedd Mary tua 10 mlwydd oed, sefydlodd y Parch. T. Charles un o'i ysgolion dyddiol cylchynol yn mhentref Abergynolwyn, dan ofal John Ellis, wedi hyny o'r Abermaw. Gan fod ysgolfeistriaid cyflogedig Mr. Charles yn ddieithriad yn ddynion ieuanc o ysbryd crefyddol a gweithgar, y canlyniad cyffredin o sefydliad ysgol ddyddiol mewn ardal fyddai sefydlu yno Ysgol Sabbothol, er addysgu yr un plant, a phawb o bob oed a ellid gasglu atynt, i "wybod yr Ysgrythyr Lân, yr hon oedd abl i'w gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth." Felly y bu yn Abergynolwyn. Sefydlodd John Ellis yno Ysgol Sabbothol mewn cysylltiad â'r un ddyddiol.