Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

brin ac yn anhawdd ei gael, yn enwedig yn ardal neillduedig y gwehydd tlawd o Lanfihangel, i fyny yma yn y Gogledd. Y Beibl agosaf y gallai Mary gael caniatad i'w ddefnyddio, oedd un mewn ffermdy tua dwy filldir o'i chartref. Caniatai ei berchenogion caredig iddi ddyfod y pryd y mynai i ddarllen hwnw. At y Beibl benthyg hwnw y gwelid yr eneth fechan yn cerdded bob wythnos, fel yr hydd at yr afonydd dyfroedd, i'w ddarllen a'i chwilio, a dysgu ei benodau ar ei chof; erbyn yr Ysgol y Sabbath. Bu fel hyn heb yr un Beibl yn eiddo iddi ei hun am y chwe' mlynedd cyntaf o'i gyrfa grefyddol. Mor gryf oedd cariad yr eneth ieuanc dlawd hon at y Llyfr dwyfol, fel y parhaodd i gerdded at y Beibl benthyg hwnw trwy yr holl flynyddau hyn. Yr "un peth" a ddeisyfai ei chalon trwy y blynyddau hyn oedd Beibl cyflawn yn eiddo iddi ei hun. Pob dimai a cheiniog a dderbyniai gan gymydogion am unrhyw wasanaeth bychan, bwriai y cwbl yn ofalus i'w thrysorfa fechan gysegredig, mewn gobaith o'u gweled, ryw ddiwrnod dedwydd, yn gyfan-