swm digonol i allu prynu yr "un Perl gwerthfawr" yr oedd ei holl fryd ar ei feddianu.
Wedi blynyddau o ddiwidrwydd y wenynen yn casglu ei dimeiau a'i cheiniogau i'w chronfa fechan, cyrhaeddodd y cyfanswm o'r diwedd i'r swm a glywsai oedd pris yr argraffiad newydd o'r Beibl Cymreig a gyhoeddasid y flwyddyn flaenorol. Aeth i'r Llechwedd at William Huw, pregethwr, ac oracl yr achos bychan yn yr ardal, i holi ymha le y gallai brynu Beibl. Ei atebiad oedd, nad oedd yr un Beibl i'w gael ar werth yn unlle nes na'r Bala, gan Mr. Charles, ac ofnai fod yr oll o'r Beiblau a gawsai yntau o Lundain wedi eu gwerthu er's misoedd. Oni fuasai y fath atebiad—fod yn rhaid myned o 25 i 30 milldir o ffordd i geisio am Feibl, ac ansicrwydd, wedi myned, fod un Beibl i'w gael—oni fuasai y fath atebiad yn ergyd angeuol i zel geneth ieuanc dlawd gyffredin? Ond nid geneth gyffredin oedd ein geneth ieuanc dlawd o Dy'nyddol. Er ieuenged ei hoed, er tloted ei sefyllfa a'i gwisg, er dieithred a phelled y