yn ei chefnogi ymlaen gyda'r tynerwch mwyaf calonogol—gwynebpryd llyfndeg y ffurfafen lâs uwch ei phen heb un cwmwl gwgus arno, ac yntau, llygad mawr y nefoedd, yn syllu i lawr yn sefydlog arni gyda'r serchawgrwydd gwresocaf. Mewn gair, ymddangosai holl wrthddrychau a lleisiau y greadigaeth uwch ei phen ac o'i hamgylch fel yn cydlefain arni, —"Dos ymlaen yn galonog, Gymraes fechan! Mae ein Crëwr mawr ni a thithau wedi gorchymyn i ni arfer pob moddion yn ein gallu i dy galonogi ymlaen yn dy daith, ac i dy sicrhau ei fod Ef ei hun yn dwfn gydymdeimlo âg amcan dy daith heddyw i ymofyn am ei Air Ef. Cawsom hefyd le i gredu fod ganddo Ef, yn ei arfaethau dirgel, rywbeth mwy i ganlyn i'r byd trwy dy daith hon di. Dos ymlaen yn hyderus, y fechan ddewr, a Duw y Beiblau a ninau oll â'n llygaid a'n gwenau arnat!"
Cyrhaedda Mary y Bala yn hwyr y dydd—yn rhy hwyr i gael gweled Mr. Charles y noswaith hono, gan mai un o ddeddfau ei fywyd ef gartref yn awr, gan waeledd ei iechyd, oedd,