"yn gynar i'r gwely, a chynar i godi." Yn ol cyfarwyddyd William Huw iddi cyn cychwyn, ymhola am dŷ Dafydd Edward, hen bregethwr parchus yn y Bala. Wedi ei holi, deall amcan ei dyfodiad, a chlywed ei holl ystori syml a thoddiadol, enillir yr hen batriarch calon-gynes i deimlo y dyddordeb dyfnaf ynddi—"Wel, fy ngeneth i, mae yn rhy hwyr i ni gael gweled Mr. Charles heno; mae yn arfer myned i'w wely yn gynar; ond bydd yn codi gyda'r wawr yn y boreu. Cei gysgu yma heno, ac ni a awn ato mor gynted ag y cyfyd boreu yfory, er mwyn i ti allu cyrhaedd adref nos yfory."
PENOD IV.—Mary gyda Mr. Charles yn a Study, yn llwyddo i gael Beibl.
BOREU dranoeth cyfyd Dafydd Edward Mary gyda thoriad y wawr, a chyfeiriant tua thŷ Mr. Charles. Dacw oleuni yn ffenestr y study mae Mr. Charles wedi codi, ac awr