Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bryderus Mary wedi dyfod. Cura Dafydd Edward y drws—dyna Mr. Charles ei hun yn ei agoryd. Wedi mynegu ei syndod at ymweliad mor foreuol ei hen gyfaill, gwahodda hwynt i fyny i'r study. Eglura ei dadleuwr hybarch neges ei gyfeilles ieuanc ddieithr, a phaham yr oedd rhaid arnynt aflonyddu arno ef mor foreu. Hola Mr. Charles Mary am ei hanes personol a'i gwybodaeth ysgrythyrol, a pha fodd y llwyddasai i gyrhaedd gwybodaeth mor helaeth yn y Beibl, a hithau heb un Beibl. Effeithia ei heglurhad ar y dirgelwch hwn y cerdded parhaus i ffermdy tua dwy filldir o'i chartref bob wythnos am y chwe' mlynedd blaenorol, i ddarllen a thrysori yn ei chof benodau o Feibl benthyg, a'r casglu gofalus o'i dimeiau a'i cheiniogau trwy yr holl flynyddau hyny at wneyd i fyny y swm oedd ganddi yn ei llogell i brynu Beibl ganddo ef iddi ei hun—effeithia yr eglurhad hynod hwn yn ddwys nodedig ar Mr. Charles:—

"Mae yn ddrwg dros ben genyf weled yr eneth fechan wedi dyfod yr holl ffordd o Lanfihangel yma i geisio am Feibl, a minau