belenau o ddagrau dirif, a saethau o wylofain torcalonus y ddieithr fechan siomedig ei hun, yn dechreu eu hymosodiad arno, ac wele ei arfaethau yn ffafr apelwyr blaenorol oll yn chwilfriw!—
"Wel, fy ngeneth anwyl i, mi welaf y rhaid i ti gael Beibl, er mor anhawdd ydyw i mi roddi un heb siomi cyfeillion eraill; mae yn anmhosibl i mi dy wrthod."
Yna estyna Mr. Charles Feibl i Mary, ac estyna hithau iddo yntau yr arian am dano. Os wylai ein harwres fechan o dristwch calon o'r blaen, wyla fwy, os oedd modd, yn awr o lawenydd calon, wedi enill y fath fuddugoliaeth deg ar Mr. Charles. Mor orlawn ydyw ei mynwes o ddiolchgarwch i'w chymwynaswr teimladwy, fel y metha ei thafod yn gwbl ei draethu, er ceisio. Ond gwna ei llygaid iawn am fethiant ei thafod. Wylant berlau tryloywon o ddiolchgarwch iddo, wrth roddi ei thrysor hir-ddymunedig yn y wallet i'w gludo adref. Mae dagrau ein Mair fechan o Lanfihangel, fel dagrau Mair o Bethania, yn drydanol. Wyla Mr. Charles, a wyla Dafydd Edward, yn yr olwg arnynt!—