Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Os ydyw yn dda genyt ti, fy ngeneth i, gael Beibl," ebe Mr. Charles wrthi, "mae yn dda iawn genyf finau ei roddi i ti. Darllena lawer arno, a dysga lawer o hono ar dy gof, a bydd yn eneth dda.—Dafydd Edward," ychwanega Mr. Charles yn ei ddagrau, "onid ydyw y fath olygfa a hon yn ddigon i hollti y galon galetaf—geneth ieuanc, dlawd, ddeallus, yn gorfod cerdded fel hyn yr holl ffordd o Lanfihangel yma—dros 50 milldir rhwng cerdded yma ac yn ol, ac yn droednoeth hefyd a ddywedasoch chwi, onide?—i geisio am Feibl? Mae y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, a arferai argraffu Beiblau a Thestamentau Cymreig er dechreu y ganrif ddiweddaf, wedi gwrthod yn benderfynol argraffu dim un Beibl na Thestament ychwaneg i ysgolion Cymru. Ond mae yr eneth fechan ddeallus yma wedi effeithio mor ddwys arnaf, fel nas gallaf byth orphwys nes cael rhyw lwybr arall i gyfarfod âg angen mawr ein gwlad am Air Duw."

Gollyngodd Mr. Charles ei ymwelyddes ieuanc ddyddorol ymaith gyda'r deisyfiadau