Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dwysaf am i gyflawnder bendith Duw y Beibl orphwys arni hyd ei bedd. Pa fath raid fod teimladau mynwes ein harwres ieuanc o Lanfihangel yn dychwelyd adref y boreu hwnw—yn droednoeth eto, mae yn wir, ond yn fuddugoliaethus—a'r "un Perl gwerthfawr," a hir chwenychasai ei chalon, o'r diwedd yn feddiant personol diogel ganddi yn ei wallet ar ei chefn rhaid i ni adael hyn i bob darllenydd ei ddychymygu iddo ei hun. Wylai Mary Jones, yn hen wraig ar fin ei bedd, 66 mlynedd wedi hyn, wrth adrodd am ysbryd toddedig a nefolaidd Mr. Charles, a'i eiriau grasusol, yn siarad y boreu bythgofiadwy hwnw â hi, oedd yn eneth ieuanc dlawd a dieithr, wedi aflonyddu arno mor anamserol.

—————————————