Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD V.—Ymweliad Mary â Mr. Charles yn arwain i sefydliad y Feibl—Gymdeithas.

FEL y sylwyd o'r blaen, hawdd ydyw credu i Mr. Charles, yn ei deithiau parhaus i gynal Cymanfaoedd Ysgolion mewn gwahanol barthau o'r wlad, gyfarfod â llawer geneth dlawd ymysg miloedd ieuenctyd yr Ysgolion Sabbothol, yn drist ei henaid o eisiau Beibl. Ond mor nodedig oedd ein harwres ieuanc ddeallgar, or-zelog, o Lanfihangel yn eu mysg hwynt oll, fel y gwnaeth ei hymweliad hi âg ef argraff ddofn, annilëadwy, ar ei ysbryd. Gwnaeth ddefnydd helaeth wedi hyny oi hanes toddiadol yn ei apeliadau at gyfeillion a boneddigion cyfoethog a haelfrydig yn Lloegr ar ran Cymru, fel engraifft nodedig o angen ac awydd ei phobl am Air Duw. Ond yr achlysur o ddyddordeb anfarwol y cynyrchodd ei hanes yr effeithiau hynotaf, oedd yn Mhwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain, yn Rhagfyr, 1802. Yr oedd Mr. Charles yn y brifddinas ar y pryd