Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymru. Yn ymchwydd uchaf y brwdfrydedd sanctaidd hwnw a gynyrchasaí ei hanes effeithiol hi, wele y Parch. Joseph Hughes yn llefain yn y teimlad dwysaf, "Mr. Charles! os Cymdeithas felly i Gymru, paham nad i'r holl deyrnas, ac i'r holl fyd hefyd!" Awgrymiad dwyfol-ysbrydoledig hwn Mr. Hughes, ar ganol apeliad Mr. Charles, a grëodd y drychfeddwl cyntaf am Feibl-Gymdeithas i'r holl fyd; ond creasid yntau gan ddrychfeddwl blaenorol Mr. Charles am Feibl-Gymdeithas i Gymru. Ni orphwysodd y teimlad angerddol a grëwyd trwy apeliad gwladgarol Mr. Charles, ac yn arbenig ystori y Gymraes fach o Lanfihangel, yn y cyfarfod bythgofiadwy hwn, hyd nes y sefydlwyd y Feibl-Gymdeithas yn Mawrth, 1804. Gwelir fel hyn y fath gysylltiad agos oedd rhwng y ffaith fechan o ymweliad ein Cymraes fechan o Feirion âg un o'r ffeithiau pwysicaf yn ei natur ai heffeithiau yn holl hanes Cristionogaeth trwy y byd. Ymffrostiwn yn gyfiawn fel cenedl yn arddunedd yr olygfa o'n hen wron Prydeinig, y tywysog Caradog, yn dadleu dros iawnderau