Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei wlad gerbron Claudius Cæsar a'r Senedd Rufeinig. Llawer mwy arddunol oedd yr olygfa o dywysog holl wladgarwyr Cymru, Thomas Charles, gerbron pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol, yn dadleu dros ei wlad am y Llyfr Dwyfol sydd yn dwyn i wlad ryddid ac iawnderau anfeidrol uwch nag y dadleuai ac yr ymladdai Caradog am danynt. Trethai arddunedd moesol yr olygfa hon holl athrylith yr arlunydd mwyaf athrylithgar i wneyd cyfiawnder â hi.

Rhaid addef y saif y Feibl-Gymdeithas byth goruwch holl Gymdeithasau y byd, fel y saif ei Llyfr goruwch ei holl wrthddrychau. Nid oes ond dau wrthddrych dwyfol gweledig mewn bod—Mab Duw yn y nef, a Llyfr Duw ar y ddaear. Duw wedi ymddangos mewn cnawd ydyw y Mab; Duw wedi ymddangos mewn llyfr ydyw y Beibl. Tra y mae y Cymdeithasau Cenhadol yn anfon dynion i lefaru wrth baganiaid y byd, mae y Feibl-Gymdeithas megis yn anfon Duw ei hun i lefaru wrthynt. Ei Llyfr hi ydyw tystysgrif a grym yr holl Gymdeithasau Cristionogol. Coron gogon-